Ystyried canlyniad erydiad y pethau yr ydym yn eu gweld a’u teimlo mae Wil Rowlands. Y mae arbrofi yn ganolog i’w ffordd o weithio, a gall yr arbrofi hwnnw ei arwain ef, a’r sawl sy’n edrych ar y gwaith, at yr annisgwyl.
Tra bo’r erydiad hwnnw ym mhopeth o’n cwmpas, ac wrth i bethau araf ddiflannu, eto gwêl Wil ryw hyfrydwch arall yn eu lle. Mae’n ymateb i’r newid hwnnw yn y tir, y bobl, y lle, yr iaith a threiglad amser.
Bydd i’w ffordd arbrofol o weithio arwain yn aml at hiwmor a dwyster ac emosiwn ymholgar. Addas iawn felly bod dull Wil o weithio yn cynnwys erydu wyneb y gwaith lawer tro tra hefyd yn datblygu haenau newydd ar y wyneb; fynnu, lawr, i fynnu a bwrw ‘mlaen.