Gweithdy Creadigol
Mae Merched Chwarel a’r Rhwydwaith Cyfuno yn eich gwahodd i weithdai creadigol i ferched haf yma, yn Storiel, Bangor. Fel helaeth o waith Merched Chwarel, byddwn yn dathlu hanes merched a gofyn y cwestiwn “Pwy yw merched chwarel y gorffennol, presennol a’r dyfodol?” Fydd y gweithdai yn gweld merched yn drilio ac yn pwytho ar lechen, i greu dyluniadau unigryw. Bydd y darnau o lechi yn dod ynghyd i greu un cerflun cyfan fydd yn cael ei arddangos yn Llys Dafydd, Bethesda.