Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith. Ariannwyd y prosiect drwy gronfa Diwylliant Ffyniant Bro drwy Cyngor Gwynedd.
Mae’r gwaith wedi cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ac athrawon yr ysgolion i gael dysgu am Celf ar y Cyd, i bori drwy’r casgliad a ddod i’r arfer o sut i’w ddefnyddio, yn ogystal â dysgu am arlunwyr ac artistiaid enwogion o Gymru a thu hwnt.
Cafodd y prosiect ei harwain gan yr artist a chyn diwtor celf Luned Rhys Parri. Gyda gwaith mewn casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a CADW, mae Luned Rhys Parri yn prysur ennill cydnabyddiaeth fel un o artistiaid mwyaf enwog a gwreiddiol Cymru.
Roedd gan y ddau ysgol themau penodol roeddent eisiau canolbwyntio arni trwy’r prosiect – themâu oedd yn cydfynd a gwaith yr oeddent yn ei wneud eisoes yn yr ysgol.
Ar gyfer y prosiect hwn, roedd Luned eisiau edrych ar waith yr artistiaid roedd y disgyblion wedi’u dewis sef; Brenda Chamberlain, Peter Prendergast, Augustus John a Gillian Ayres. Roedd y gwaith hefyd yn dathlu pobl a golygfeydd roedd y plant yn gyfarwydd â nhw, tra hefyd yn dysgu am ddulliau amrywiol wrth greu gwaith celf.
Tra fod yr arddangosfa yn Storiel ac yn Plas Glyn-y-Weddw mi fydd y disgyblion yn ymweld â’r arddangosfeydd a chael cyfle ychwanegol i gydweithio gyda Luned, yn creu gwaith sy’n ymateb i’r arddangosfeydd.
Fel rhan o’r prosiect, mae’r plant wedi bod yn ffodus iawn i gael sesiwn dros y we gyda’r tîm yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i ddysgu am y casgliadau celf; Beth sydd yn y casgliad? Beth sydd yn cael eu gadw a pham? Sut mae nhw’n cael eu cadw a’u gofalu? Sut y maent yn dewis pa ddarnau o’r casgliad cenedlaethol sy’n cael eu gweld ar ba adegau a pham?
Mi fydd y disgyblion hefyd yn cael y cyfle i fynd ar drip i’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn ystod y misoedd nesaf am gip ‘Tu Ôl i’r Llenni’ o’r casgliad cenedlaethol.
Roedd plant Ysgol y Garnedd, Bangor wedi gofyn i gael ymchwilio i fewn i’r thema o ‘Fangor’ i gydfynd a’u gwaith ysgol ar gyfer tymor y Gwanwyn 2025. Fe ddaeth llwyth o ddelweddau i fyny unwaith i Bangor gael ei mewnbynnu i wefan Celf ar y Cyd; yn amrywiaeth o dirluniau a phortreadau. Daeth tri artist i’r amlwg gyda Ysgol y Garnedd; tirluniau yr ardal gan Peter Prendergast a’i amlinelliad trwm; Brenda Chamberlain gan ei bod hi wedi’u geni ym Mangor ac yn hoff o ddarlunio portreadau o bobl; a phobl amrywiol a portreadau Augustus John o’r werin bobl wrth iddo teithio o gwmpas y wlad. Bu’n astudio a darlunio pobl cyffredin o pob math o gefndiroedd.
Roedd disgyblion Ysgol Cymerau, Pwllheli eisiau archwilio thema ‘dŵr’ a ‘môr’. Roedd digonedd o ddeunydd ar wefan Celf ar y Cyd’ o dan y themâu yma – hawdd oedd gwario oriau yn pori drwy’r canlyniadau. Daeth tri artist i’r amlwg oherwydd eu cysylltiadau gyda’r ardal; Augustus John a’i bortreadau amrywiol; Brenda Chamberlain oherwydd ei blynyddoedd o fyw a gweithio ar Ynys Enlli, (ble mae sawl darn yn dal i’w gweld yno hyd heddiw diolch i waith cadwraeth yr ynys); a lliwiau lliwgar Gillian Ayres fuodd yn byw yn Llaniestyn am gyfnod yn yr 1980au wrth iddi gychwyn ei bywoliaeth fel artist llawn amser. Yn ogystal, roedd delweddau lu o gysylltiad yr ardal â’r môr megis y cychod, pysgotwyr a mwy.