Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid a myfyrwyr 16 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Eleni gwahoddwyd ceisiadau ar thema Agored gydag amod i’r gweithiau fod yn ddim mwy na maint A1 (594 x 841mm). Gallai’r gwaith celf gael ei gyflwyno mewn unrhyw gyfrwng: paentiadau, darluniau, ffotograffiaeth, ffilm, tecstil, pren, clai ac ar ffurf 2D neu 3D.
Gwelwch yma amrywiaeth o weithiau wedi eu dethol i chi fwynhau. Mae yma 86 o weithiau gan 67 artist. Eleni, y Beirniad Gwadd oedd Jwls Williams. Gan longyfarch pawb a gymerodd rhan, eleni cyflwynir gwobr Dewis y Detholwr i Morgan Griffith am ei waith ‘A Descent into the – Maelstrom’. Yn ogystal rhoddwyd Ganmoliaeth i waith acrylic gan Chris Higson, gwaith serameg gan Emily Hughes a gwaith olew gan Maisy Lovatt, sy’n astudio celf yng Ngholeg Menai.
Cewch bleidleisio dros eich ffefryn chi all wedyn fod yn gymwys am wobr Dewis y Bobl, rhodd gan Gyfeillion Storiel a roddir i’r gwaith a gaiff y mwyafrif o bleidleisiau. Ewch ati i ddewis eich ffefryn gan bleidleisio unwaith i’r gwaith hwnnw a’i roi yn y blwch postio arbennig cyn Sadwrn 18fed o Fai.