Mae’r goleuadau yn isel yn y gofod oriel yma. Ewch i mewn gyda gofal a mwynhewch y naws myfyriol.
“Yn 2019, wrth edrych ar fap Ordnans presennol, sylwais fod ardaloedd uchel yng nghefnwlad Porthmadog, y tu ôl i’r Cob, yn dal i gael eu cyfeirio atynt fel ynysoedd. Taniodd hyn fy nychymyg o ran sut byddai’r dirwedd wedi edrych cyn i William Maddock gwblhau’r Cob ym 1811. Sylweddolais y byddai Traeth Mawr wedi bod yn aber llanwol, gyda’r llanw’n dod i mewn cyn belled â Phont Aberglaslyn. Mae’r newid radical i’r dirwedd hon, a achoswyd gan Maddock, i’w deimlo yng ngeiriau Thomas Love Peacock yn Headlong Hall (1816).
‘The mountain-frame remains unchanged, unchangeable;
but the liquid mirror it enclosed is gone’.
Cefais fy ysbrydoli i archwilio Traeth Mawr, Traeth Bach ac afon Dwyryd. Cefais fy nhynnu’n benodol at y mannau croesi a’r pontydd, a’r glanfeydd fyddai wedi cael eu defnyddio ar yr afon Dwyryd fel rhan o’r diwydiant llechi, yn ogystal â’r marciau a adawyd yn y dirwedd gan ddynolryw, gan nodweddion daearegol a natur. Drwy weithio gyda phorslen a latecs, cymerais olion yn uniongyrchol o’r dirwedd – o graig a charreg, o bont a llechen – y gallwn eu datblygu yn ddarnau creadigol.
Yn 2019, cwblheais y rhan fwyaf o’r gwaith maes gyda grant ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cafodd y gwaith terfynol ei arddangos yn Oriel Brondanw yn 2022.
Yn ystod blynyddoedd cyfamserol y cyfnod clo, sylweddolais fod y gwaith yn datblygu i gyfeiriadau newydd. Parheais i weithio gyda phorslen a latecs – a gwnes gwrwgl. Cofiaf y llongau yn teithio ar afon Dwyryd, Cei Tyddyn Isaf a’r mannau croesi ar Draeth Mawr, a gwelais gysylltiad thematig yn codi o’r gweithgareddau creadigol yma. Y cyswllt hwnnw oedd Llif.
Ugeiniau o gychod porslen bychain yw’r mynegiant allweddol o lif a cherrynt yr aber llanwol a dyma’r brif nodwedd.”
SIAN HUGHES