Mae’r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd waith gan Shani Rhys James a Stephen West. Ar ôl byw a gyda’i gilydd am fwy na 45 mlynedd, mae’r ddau wedi canolbwyntio ar wahanol themâu a dulliau gweithredu yn eu hymarfer artistig. Mae gofod stiwdio y ddau – ar wahân ond dan un tô. Dyma weithiau sy’n cysylltu ac yn gwrthgyferbynnu. Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar y ‘gofod mewnol’; yn feddyliol ac yn gorfforol. Boed yn hunanbortreadau pwerus ac emosiynol Shani yn y stiwdio neu’r gegin, neu naratifau Stephen sy’n gofyn cwestiynau, sy’n archwilio persbectif ac yn lluniadu pensaernïaeth, ffigurau, coed ac anifeiliaid.
Yn ogystal â benthyciadau gan ein sefydliadau cenedlaethol, mae’r ddau wedi cynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i adeilad a chasgliadau Storiel.
Mae’r arddangosfa yma wedi bod yn bosib trwy nawdd CELF- Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.
Agoriad: Nos Wener, Ebrill 11 am 6yh. Croeso i bawb.