Dewch i ymuno â ni ar gyfer cyfres arbennig o sgyrsiau prynhawn dydd Gwener sy’n archwilio thema heddwch, wedi’u hysbrydoli gan etifeddiaeth bwerus Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923–24. Trefnir y sgyrsiau gan Gyfeillion Storiel, ac mae pob un yn cynnig safbwynt unigryw ar rôl merched mewn mudiadau heddwch, gweithredu cymdeithasol a hanesion sydd wedi mynd ar goll yn aml.
Mae’r gyfres hon yn cyd-fynd ag arddangosfeydd Storiel, Merched yn Hawlio Heddwch, gan fyfyrio ar gof, gwrthsafiad a grym adrodd straeon
2 Mai 2pm Iona Price – Archebwch Yma
7 Milltir, 7 Mlynedd- Hanes Col Âpel Heddwch Menywod Cymru
Mae Iona Price yn rhannu ei hymchwil i’r ddeiseb ryfeddol hon a gafodd ei llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru yn galw am heddwch ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Darganfyddwch straeon cudd y menywod y tu ôl i’r llofnodion a thaith y ddeiseb i America.
Sgwrs yn Gymraeg -bydd offer cyfieithu ar gael
Mai 9, 2pm Jane Hoy – Archebwch Yma
“When Minnie met Katie”, darlleniad o waith wedi’eu hysbrydoli gan Gweithdy Prosiect Heddwch Aberration
Mae’r awdures a pherfformiwr Jane Hoy yn cyflwyno darlleniad creadigol wedi’i seilio ar weithdy Aberration gyda Norena Shopland, gan gyfuno hanesion go iawn â chymeriadau dychmygol o fenywod mewn ymgyrchoedd heddwch hanesyddol.
Sgwrs yn y Saesneg
Mai 16, 2pm Angharad Tomos – Archebwch Yma
Mary Silyn Roberts
Mae’r awdures ac ymgyrchydd Angharad Tomos yn trafod bywyd rhyfeddol Mary Silyn Roberts – heddychwraig, ffeminist ac addysgwr a weithiodd dros heddwch a chydraddoldeb yng Nghymru’r ugeinfed ganrif.
Sgwrs yn Gymraeg – bydd offer cyfieithu ar gael
Mai 23 2pm Annie Williams – Archebwch Yma
Menywod a’r Mudiad Heddwch yng Ngogledd Cymru
Mae’r hanesydd Annie Williams yn trafod cyfraniad menywod lleol at fudiadau heddwch cenedlaethol a rhyngwladol – gan dynnu sylw at straeon o ddewrder, creadigrwydd a chyd-drefnu cymunedol.
Sgwrs yn y Saesneg