Mae SAIN wedi bod yn gyfeiliant i fywydau pobl Cymru ers diwedd y 60au, a’r gerddoriaeth a’r caneuon yn drac sain i gyfnodau amrywiol yn ein hanes – mae gan bawb ei stori, ac yn aml, mae cân i gydfynd â’r stori honno.
Wedi hanner canrif o recordio a chyhoeddi, dyma archif sy’n drysor cenedlaethol, ac yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant a threftadaeth Cymru – arddangosfa yn amlygu peth o’r hanes dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf.