“Mae’r hinsawdd fyd-eang yn cynhesu: mae rhewlifoedd yn dadmer ac mae lefel y môr yn codi.”
Mae prosiect CHERISH yn dîm o archeolegwyr, daearyddwyr a daearegwyr sy’n astudio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol a morol yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae’r arddangosfa hon yn STORIEL yn dangos y gwaith a fu ar safleoedd arfordirol yng Nghymru o Sir Benfro i Ynys Môn. O ddiddordeb lleol mae astudiaethau ym mryngaer a’r dirwedd ehangach yn Ninas Dinlle, mannau pererindodau ar ynysoedd pellennig Gwynedd a Môn, llongddrylliadau ger Abersoch a thwyni tywod yn Aberffraw.
O’r awyr, ar ymyl yr arfordir ac o dan y tonnau maent yn defnyddio technolegau diweddaraf megis awyrennau, drôn a radar i gynnal gwaith ymchwil. Maent yn monitro newid diweddar a hirdymor er mwyn datgelu effeithiau’r tywydd a’r hinsawdd ar ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, a hynny yn y gorffennol a’r presennol.
Cadwch mewn cyswllt gyda CHERISH ar … www.cherishproject.eu
Noddir CHERISH gan Raglen Gydweithredol UE Cymru-Iwerddon 2014-20 dan arweiniad y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.