
Llif(T) yn Cyflwyno: John Bisset
14 June 2025Mae Llif(T) yn falch o gyflwyno un arall yn ei gyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr hynod dalentog, John Bisset.
Mae Llif(T) yn falch o gyflwyno un arall yn ei gyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr hynod dalentog, John Bisset.
Bydd yr arddangosfa'n dangos y camau hawdd y gall unrhyw arddwr eu cymryd i helpu i warchod ac adfer byd natur yng Ngogledd Cymru drwy atal planhigion gardd rhag dianc.
Dewch i ddarganfod hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923-24 a rôl ganolog menywod Cymru wrth weithio dros heddwch. Gan ddod â chelf ac archifau at ei gilydd, mae straeon y menywod hynod hyn yn ysbrydoledig ac mor berthnasol heddiw â chan mlynedd yn ôl.
Mae'r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd waith gan Shani Rhys James a Stephen West. Yn ogystal â benthyciadau gan ein sefydliadau cenedlaethol, mae'r ddau wedi cynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i adeilad a chasgliadau Storiel.
Mae’r casgliad celf yn creu ased artistig a diwylliannol pwysig i’r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a’i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o’r casgliad.
Mae LLiFT yn grŵp cymunedol cynhwysol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion chwarae neu brofi cerddoriaeth ensemble fyrfyfyr yn rhydd yn rheolaidd ym Mangor, Gogledd Cymru ac i archwilio dulliau rhyngddisgyblaethol ehangach o wneud cerddoriaeth arbrofol.