Peintiadau a llyfrau artist. Yn archwilio’r gofod rhwng haniaeth a ffurfiad, daw ysbrydoliaeth y peintiadau hyn o’r dirwedd trwy’r tymhorau.

Peintiadau a llyfrau artist. Yn archwilio’r gofod rhwng haniaeth a ffurfiad, daw ysbrydoliaeth y peintiadau hyn o’r dirwedd trwy’r tymhorau.
Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.
Mae Llif(T) yn falch o gyflwyno un arall yn ei gyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr hynod dalentog, John Bisset.
Bydd yr arddangosfa'n dangos y camau hawdd y gall unrhyw arddwr eu cymryd i helpu i warchod ac adfer byd natur yng Ngogledd Cymru drwy atal planhigion gardd rhag dianc.