Dewch i ddarganfod hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923-24 a rôl ganolog menywod Cymru wrth weithio dros heddwch. Gan ddod â chelf ac archifau at ei gilydd, mae straeon y menywod hynod hyn yn ysbrydoledig ac mor berthnasol heddiw â chan mlynedd yn ôl.
Yn 1923-24, arwyddodd 390,296 o fenywod o Gymru apêl i ferched America yn galw am heddwch byd. Yn dilyn colledion erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd menywod eu hysbrydoli i apelio am heddwch, gan alw am GYFRAITH NID RHYFEL’. Darganfyddwch fwy am Annie Hughes Griffiths ac eraill a arweiniodd y ddirprwyaeth i America, yn ogystal a’r rhai o Ogledd Cymru a ymgyrchodd dros heddwch, gan gynnwys trefnu’r daith gerdded o Benygroes i Hyde Park yn 1926. Mae’r arddangosfa o archifau a chelf yn dod â straeon yr unigolion rhyfeddol hyn yn fyw a ymgyrchodd dros heddwch – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Boed i’w straeon ysbrydoli ymwelwyr i’r arddangosfa i weithio dros heddwch heddiw.
Gyda benthyciadau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Archifau Prifysgol Bangor, Gwasanaeth Archifau Gwynedd a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Delwedd: Annie Hughes Griffiths sy’n cynnal apêl heddwch y merched y tu allan i’r Tŷ Gwyn yn Washington yn dilyn eu cyfarfod â’r Llywydd Calvin Coolidge yn 1924, ochr yn ochr â (L-R)Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys. Diolch i WCIA/Academi Heddwch Cymru
AGORIAD: Dydd Sadwrn, Ebrill 12 am 12 dydd. Croeso i bawb.