LLWYBR AMGUEDDFEYDD TOTALLY CHAOTIC HISTORY:

YMUNWCH Â’R LLWYBR I DEULUOEDD – PRYDAIN YN OES Y RHUFEINIAID, YN STORIEL YN YSTOD YR HANNER TYMOR HWN!

Yn ystod hanner tymor yr Hydref, dewch i ganfod straeon a gwrthrychau anhygoel o Brydain yn Oes y Rhufeiniaid yn STORIEL, Bangor fel rhan o’r Llwybr Amgueddfa Totally Chaotic History, wedi’i drefnu gan Kids in Museums a Walker Books. Mae’r llwybr cenedlaethol i deuluoedd yn dathlu cyhoeddi Totally Chaotic History: Roman Britain Gets Rowdy, gan yr hanesydd a’r podlediwr enwog Greg Jenner, gyda chyfraniadau arbenigol gan Dr Emma Southon, hanesydd Oes y Rhufeiniaid, a darluniau gan Rikin Parekh.

Cydiwch mewn taflen weithgaredd ac ymunwch â ni yn STORIEL a dewch i wybod am y gwrthrychau hynod sydd wedi goroesi ers Prydain yn Oes y Rhufeiniaid a’r bobl wnaeth eu creu a’u defnyddio.  Rhowch enw Rhufeinig i chi eich hun, dyluniwch wisg Rufeinig a dysgwch fwy am fosaig.  Gorffennwch y llwybr ac fe gewch sticer Totally Chaotic History!

Bydd dros 50 amgueddfa yn y DU yn cymryd rhandros hanner tymor yr Hydref ac yn annog teuluoedd i ddod draw i fwynhau yn eu hamgueddfa leol.  Bydd y gweithgaredd yn rhedeg o 19/10/24-2/11/24.

Hefyd, rydym yn rhoi cyfle i deuluoedd gymryd rhan yn ein cystadleuaeth genedlaethol i ennill copi o’r llyfr Totally Chaotic History: Roman Britain Gets Rowdy a Double Art Pass Plus Kids (rhodd gan yr Art Fund). Dyluniwch eich mosaig Rhufeinig eich hun a rhannwch eich llun ar Twitter/X neu Instagram gyda’r hashnod #TCHMuseumTrail a thagiwch @kidsinmuseums am gyfle i ennill.

AM FWY O WYBODAETH AM Y LLWYBR AMGUEDDFEYDD TOTALLY CHAOTIC HISTORY YN STORIEL, cysylltwch â [email protected]

 

GWYBODAETH AM STORIEL

Mae’r amgueddfa’n dwyn ynghyd gasgliadau hanes cymdeithasol o bob rhan o’r gogledd, gyda phwyslais arbennig ar Wynedd.

Gwybodaeth am KIDS IN MUSEUMS
Rydym yn elusen sydd wedi ymroi’n llwyr i wneud amgueddfeydd yn fannau agored a chroesawgar i blant, pobl ifanc a theuluoedd (ac rydym wedi ennill gwobrau am ein gwaith). Rydym yn cefnogi ac yn bencampwr i sefydliadau sy’n deuluoedd-gyfeillgar, drwy fentrau amrywiol, megis y ‘Family Friendly Museum Award’ a’r ‘Takeover Day’.  Rydym yn estyn gwahoddiad i sefydliadau treftadaeth ymrwymo i’n Maniffesto, sy’n gosod canllawiau syml i wneud amgueddfeydd yn fannau sydd o fewn cyrraedd i bobl o bob oed.  www.kidsinmuseums.org.uk

Chwiliwch amdanom ni ar Twitter/X, Facebook a⁠c Instagram.

Gwybodaeth am WALKER BOOKS

Yn gartref i lyfrau ar gyfer pobl o bob oed, mae Walker Books yn cyhoeddi nifer o awduron, darlunwyr a rhyddfreintiau llenyddol sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnwys Anthony Horowitz, Angie Thomas, Cassandra Clare, Lucy Cousins, Anthony Browne, Patrick Ness, Guess How Much I Love You gan Sam McBratney ac Anita Jeram, We’re Going on a Bear Hunt gan Michael Rosen a Helen Oxenbury, a Where’s Wally? gan Martin Handford. Mae Walker Books yn rhan o’r Walker Books Group rhyngwladol sy’n cynnwys Walker Books Australia;  Candlewick Press yn America a’i adran newydd, Walker Books US; a Walker Productions.