Delweddau o’i grwydro o amgylch Cymru a’r byd eang. Gyda diddordeb yn yr estheteg ddynol, cewch gip olwg ar fyd yr ‘hogyn o Wytherin’ sydd yn cofnodi ei gyfnod dros yr ugain mlynedd diwethaf mewn byd sydd yn brysur newid.
“Bu bron i’r ddiod feddwol fy lladd i ugain mlynedd yn ôl.
Collais bopeth heblaw am fy mywyd y flwyddyn honno – fy nheulu, fy nghartref, fy ngwaith a fy mhwyll hefyd. Erbyn y diwedd roeddwn i’n denau iawn, yn felyn, ac yn yr ysbyty – yn pwyso nemor mwy na saith stôn ac yn edrych fel trempyn. Ond buom yn ofnadwy o lwcus. Er fy mod i wedi achosi niwed ofnadwy i fy iau, dywedodd y doctoriaid y cawn fyw pe bawn i’n rhoi’r gorau i yfed. Ac felly y bu hi – ar Ragfyr 27, 2001, yfais alcohol am y tro olaf hyd yma.
Bydd pobol yn dod ataf weithiau ac yn fy llongyfarch ar fod mor “ddewr” – ond y gwir yw fy mod i wedi rhedeg am fy mywyd pan ddeallais pa mor wael oeddwn, a ’dw i dal i redeg! Yn gorfforol, gwellais yn gyflym iawn. Ymgartrefais mewn fflat a chefais fy siâr o’r plant – yn ffodus iawn, doeddwn i erioed wedi bod yn annifyr nac yn dreisgar yn fy niod. Ond gwyddwn fod rhaid newid fy mywyd yn gyfan gwbl. Ffarweliais â byd prysur y papurau newydd a dechreuais fywyd newydd. Y peth cyntaf wnes i oedd cerdded reit rownd Cymru; rwy’n brolio mai fi oedd y cyntaf i wneud y daith honno, tua mil o filltiroedd – fel y medrwn, nid i gyd ar unwaith. Yna cerddais ar draws Cymru ddeuddeg tro, a buom hefyd yn crwydro’r byd efo’r ferch, Ella. Aethum ymlaen i sgwennu nifer o lyfrau; y mwyaf llwyddiannus ohonynt oedd Y Dŵr yn Gymraeg a Mr Vogel yn Saesneg.
Byddaf yn dathlu ugain mlynedd yn ddyn sobor yn ystod yr arddangosfa hon, ac rwy’n ddiolchgar iawn fy mod i wedi cael ail gyfle i fyw bywyd cyflawn. Cefais lot o hwyl – rwy’n greadur bach lwcus iawn. Be ’dw i’n ei wneud, hyd y gwelaf i, ydi creu rhyw fath o gronicl neu oes-lyfr. Rwy’n 70 nawr, dyn diabetig efo ‘pacemaker’, ac yn cofnodi fy mywyd yn ystod cyfnod cythryblus dros ben. Yn fwy na dim, rwy’n hoffi cymowta ar hyd a lled Cymru yn edmygu ei phrydferthwch ac yn mwydro pobol ar y ffordd. ’Dydw i erioed wedi dweud ’mod i’n ffotograffydd go iawn. I fod yn hollol onest, cyw digon od efo Nikon ydw i, a’r teclyn hwnnw’n gwneud ei waith heb i mi wybod llawer amdano. Dydw i ddim yn un o’r crachach, ond mae gen i ddiddordeb mewn estheteg a be sy’n fy symbylu i gymryd llun: y cwestiwn ydi – ar be ydw i’n edrych, a pham?
Rwy’n wir obeithio y mwynhewch y cipolwg yma ar fyd hogyn o Wytherin.”
Lloyd Jones