“Llechi Cerfiedig Ogwen
a thaith trwy’r Gofod ac Amser”
Darlith am bentan cerfiedig Bryn Twrw a’i ysbrydoliaeth, y mathemategydd John William Thomas (Arfonwyson, 1805-1840)
2.00pm Dydd Iau 3 Hydref
Thursday 3 October
Yr Athro Deri Tomos
“Llechi Cerfiedig Ogwen
a thaith trwy’r Gofod ac Amser”
Darlith am bentan cerfiedig Bryn Twrw a’i ysbrydoliaeth, y mathemategydd John William Thomas (Arfonwyson, 1805-1840)
2.00pm Dydd Iau 3 Hydref
Thursday 3 October
Yr Athro Deri Tomos
Mae BLAS, Pontio yn cyflwyno project arbennig sy’n cofnodi cymuned arbennig Hirael gyda chefnogaeth Storiel. Mae Gwion Aled Williams a’r ffotograffydd Iolo Penri wedi bod yn ymweld â Hirael sawl gwaith dros gyfnod o flwyddyn gan gael cipolwg o’r gymuned a’r unigolion sy’n byw yno. Bydd nawr cyfle i weld ffrwyth y gwaith o gofnodi cymuned Hirael mewn arddangosfa arbennig yn Storiel.
Dechreuais arddangos fy ngweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae fy ngwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe’m magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond rwyf wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o'r themau cryfaf yn fy ngwaith.
Mae arddangosfa fawr o waith Jac Jones, artist, darlunydd ac awdur yn Storiel yn addo bod yn ysbrydoledig ac yn syndod. Mae delweddau Jac yn wybyddus i filoedd o deuluoedd ar draws Cymru –y cymeriad Jac y Jwc a greodd ar gyfer cyfres llyfrau Sali Mali neu weithiau celf ar gyfer llyfrau plant clasurol gan T.Llew Jones fel Lleuad yn Olau ac Y Trysorfa i enwi ond rhai.