Esiamplau o lechi cerfiedig sydd yn Storiel. Lluniwyd y cerfiadau gan chwarelwyr yn y 19eg ganrif, y rhan fwyaf i’w canfod yn Nyffryn Ogwen. Gwelir hefyd ddyluniadau gwehyddu tecstil a phrintiau cyfoes wedi eu hysbrydoli gan batrymau llechi cerfiedig.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones
07 September - 02 November 2024COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.
Catrin Williams
05 October 2024 - 04 January 2025Dechreuais arddangos fy ngweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae fy ngwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe’m magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond rwyf wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o'r themau cryfaf yn fy ngwaith.
Jac Jones
05 October 2024 - 04 January 2025Mae arddangosfa fawr o waith Jac Jones, artist, darlunydd ac awdur yn Storiel yn addo bod yn ysbrydoledig ac yn syndod. Mae delweddau Jac yn wybyddus i filoedd o deuluoedd ar draws Cymru –y cymeriad Jac y Jwc a greodd ar gyfer cyfres llyfrau Sali Mali neu weithiau celf ar gyfer llyfrau plant clasurol gan T.Llew Jones fel Lleuad yn Olau ac Y Trysorfa i enwi ond rhai.