Gardd Mwsog
Arddangosfa o ffolio, paentiadau a printiau sy’n archwilio Coedwigoedd Glaw Celtaidd Gogledd Cymru a Choedwig yr Is-Antarctig, De Chile.
Ers 2010, rydym wedi cyfarfod yn ystod pob tymor i weld a chofnodi trwy luniadu, paentio ac ysgrifennu ein profiadau o fod ym myd natur. Mae hyn wedi cyfoethogi ein hymarfer fel artistiaid.
Wedi eu cynnwys yn yr arddangosfa hon mae tri ffolio ynghyd â phaentiadau cysylltiedig a llyfrau artistiaid:
Gardd Fwsogl – Ffolio Coedwig Law Eryri o fwsoglau a llysiau’r afu dethol a ddarganfuwyd yng Ngheunant Llennyrch ger Maentwrog, Eryri. Ym mhob tymor yn y coetir hwn, gwnaethom baentiadau o le, sain a chynefin; yn ddiweddarach yn ein stiwdios gwnaethom baentiadau microsgop yn ymateb i’r mwsoglau a llysiau’r afu (bryoffytau) a gasglwyd.
Coetir Hafod – Ffolio Coedwig Law Eryri lle rydym yn cofnodi, dros ddwy flynedd, y newidiadau i goetir wrth iddo gael ei deneuo ac wrth i anifeiliaid gael eu cyflwyno i greu porfa fwy amrywiol i’r coetir.
Isla Navarino – Ffolio Coedwig Is-Antarctig a wnaed yn ystod ein cyfnod preswyl yng Nghanolfan Ryngwladol Cape Horn, Chile. Treuliasom amser yn cerdded, paentio, lluniadu a gwneud nodiadau fel ymateb i’r Môr, Coedwig, Dŵr a’r Planhigion a’r Adar sy’n byw ynddynt ar yr ynys anghysbell hon.
Gardd Fotaneg Treborth – darnau o waith print a phaent a wnaed ar y cyd.
Kim Atkinson a Noëlle Griffiths
Hafod
Coedwig Omora
Llysiau'r Afu: Gwanwyn a Gaeaf