Gwaith newydd yn cylchdroi o gwmpas thema ganolog o undod, yn chwilio am hanfod yr hyn sy’n ein cysylltu. Delweddau manwl, emosiynol yn defnyddio paent olew ar gynfas llyfn sy’n archwilio’r llinell rhwng peintio haniaethol ac estheteg gor-realydd mân fanylion a goleuo dramatig; yn myfyrio ar bethau megis y golau symudol ar ddŵr llifeiriol, neu ennyd dawel.
“Rwyf wedi archwilio’n helaeth y llinell rhwng peintio haniaethol ac estheteg gor-realydd mân fanylion a goleuo dramatig. Ers 2018 wrth arbrofi gyda phrosesau ffotograffig ystafell dywyll, yn cynnwys peintio fy negyddion ffotograffau fy hun, rwyf wedi fy nghyfareddu gyda chreu delweddau manwl, penodol ac emosiynol iawn yn defnyddio paent olew ar ganfas llyfn. Yn hytrach na dad-adeiladu realaeth yn siapiau haniaethol, ymdrechais i greu realaeth arall yn seiliedig ar gyfuniad o ysbrydoliaethau. Yn aml yn myfyrio ar y fath bethau megis y golau symudol ar ddŵr llifeiriol, neu ennyd dawel yn archwilio hen fwynglawdd neu ogof naturiol. Hanfod diderfyn natur ydyw sy’n brwydro ymlaen er gwaethaf y rhyngweithio rhwng pobl.
Mae’r peintiadau yn yr arddangosfa hon yn cylchdroi o gwmpas thema ganolog undod rhwng pawb. Wrth chwilio am hanfod yr hyn sy’n ein cysylltu fel bodau dynol, meddyliais yn eang am y thema cyn gwneud unrhyw waith ffisegol ar y pwnc. Mae’n anarferol i mi ganolbwyntio’n ddyfn ar brosiect cyn creu unrhyw frasluniau neu astudiaethau lliw. Rwyf yn aml yn gweithio wrth reddf, o’r galon, ac mewn trefn, ond roedd y pwnc hwn yn gofyn am ddull gwahanol. Dechreuais feddwl am bethau sydd wirioneddol yn ein cysylltu fel bodau dynol. Gwaed yw hanfod ein bodolaeth, ac mae’n un o’r ychydig bethau sy’n ein huno a’n gwahanu oddi wrth eraill. Nid oes gan gasineb unrhyw rywioldeb, hil, crefydd, hunaniaeth, gallu nac unrhyw arf rhanadwy arall a ddefnyddir gennym yn erbyn ein gilydd. Os byddai lliw gan undod, byddai’n lliw coch. Rydym i gyd yn gwaedu yn yr un modd.”
Jonathan Retallick