Ganwyd John Wickens ym mhentref Keymer yn ardal y South Downs, Lloegr. Roedd yn fab i Isaac Wickens, a oedd yn gweithio fel saer coed a labrwr, a’i wraig Amelia. Yn ôl cyfrifiad 1881 fe symudodd i fyw i ardal Brighton gyda’i chwaer Jane ac mae’n disgrifio ei hun fel ffotograffydd ac argraffydd. Yn ddiweddarach fe symudodd i ardal Tonbridge i weithio fel ffotograffydd ac mae’n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn y bu iddo gyfarfod ac Elizabeth Williams, merch i’r ffotograffydd ac argraffydd o Fangor, John Williams. Priododd y ddau ym 1885 a symud i Fangor, ble ganwyd eu merch Amelia. Erbyn 1889 fe restrir John Wickens yn y Suttons Directory of North Wales fel un o bedwar ffotograffydd a weithiai ym Mangor gan iddo gymryd drosodd busnes ei dad yng nghyfraith yn 10 The Crescent, Bangor Uchaf.
Ym 1894 ymaelododd â’r Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol a’r flwyddyn ddilynol fe’i hetholwyd yn gymrawd. Ym 1895 fe benderfynodd agor stiwdio newydd a alwyd yn Retina Studio yn 2 Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf. Erbyn 1903 yr oedd yn berchen ar ddwy stiwdio sef y Retina Studio a’r Photographic Studio yn 43 Stryd Fawr, Bangor.
Arddangoswyd rhai o’i ffotograffau mewn arddangosfeydd a drefnwyd gan y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn y Palas Grisial yn ogystal â’r arddangosfa gelf a chrefft yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ym 1902 fe’i derbyniwyd fel aelod o’r Orsedd o dan yr enw “Gwawl-lunydd”. Yn ystod yr Eisteddfod hon cafodd ei gyfle cyntaf i dynnu lluniau o gynrychiolwyr y cenhedloedd Celtaidd. Ym 1904 bu’n tynnu lluniau cynrychiolwyr y Gyngres Geltaidd yng Nghaernarfon. Comisiynwyd John Wickens i dynnu nifer o gyfresi o luniau swyddogol yn ogystal â phortreadau o ddinasyddion blaenllaw megis David Lloyd George. Tynnodd nifer o luniau hefyd a oedd yn dangos bywyd gwaith a chymdeithasol pob dydd pobl yr ardal yn ogystal â golygfeydd lleol.
Erbyn y 1920au cynnar yr oedd John Wickens wedi colli ei olwg ond fe barhawyd â gwaith y stiwdio gan ei fab yng nghyfraith G D Evans. Bu farw ym 1936 yn saith deg ag un oed ac fe dalwyd teyrnged iddo yn y papurau newydd lleol fel “famed photographer”.
Mae’r lluniau a welir yn rhan o gasgliad ffotograffau Gwasanaeth Archifau Gwynedd.