Mae ‘Cysylltiad Lliw + Colour Connections’ yn dod â dau artist sy’n ymwneud â lliw at ei gilydd am y tro cyntaf. Penllanw sgwrs barhaus dros nifer o flynyddoedd yw’r arddangosfa hon ac mae wedi arwain at amser penodol yn ddiweddar i gynhyrchu gwaith newydd a chydweithio yn deillio o wahanol safbwyntiau pob artist ar liw.
O ran ymarfer blaenorol, mae’r ddau artist wedi chwilio am fwy o eglurder mewn cyd-destunau gwrthrychol a goddrychol, ac mae’r ddau artist wedi datblygu portffolios paralel mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru, Ewrop a lleoliadau byd-eang. Er mwyn cydweithio, datblygu dealltwriaeth o ddulliau creadigol ei gilydd, ac ymateb yn feirniadol iddynt, mae Hedley a Smith wedi gwneud cyfres o baentiadau yn eu stiwdios unigol wrth gynnal sgwrs feirniadol sydd, yn ei thro, wedi bwydo’n ôl i’r arddangosfa hon ar y cyd. Mae’r arddangosfa yn cynnwys cydweithio am y tro cyntaf yn defnyddio papurau Japaneaidd a wnaed ar leoliad yng Nghreta. Mae cydweithio ar waith gwirioneddol yn gosod cynsail i’r ddau artist gyda goblygiad ac arwyddocâd yn y cyd-destun ehangach.