Mae INOIS AR AGOR yn gydweithrediad newydd rhwng y label annibynol INOIS ac yr Oriel a’r Angueddfa, Storiel ym Mangor. Fydd yn cynnal sesiynau misol yn agor y drws i’r broses greadigol wrth fod yn ofod stiwdio agored i artistiaid a bobl ifanc.


Unwaith y mis bydd y caffi yn Storiel ar agor i bawb am brynhawn wrth INOIS gymryd drosodd. Fydd y prynhawniau yma’n gyfle i greu, trafod a dysgu. Bydd INOIS yn dod a offer stiwdio ac yn gwahodd artistiaid i weithio ar ei cerddoriaeth ond fydd y drws hefyd yn hollol agored i unrhyw un sy’n dod mewn, sydd eisio gweithio ar ei celf, sydd eisio panad neu hyd yn oed dim ond eisiau gael golwg ar y holl gynwrf sy’n mynd ymlaen.


Fydd INOIS AR AGOR yn ofod fydd yn cael ei ffurfio gan y bobl sydd yn troi fyny bob mis ac cael ei arwain gan dyheadau y bobl yna. Pwy a wyr be fydd yn cael ei greu? Album newydd? Artist newydd? Neu efallai dim ond sgwrs fydd yn egin i berson ifanc ddechrau mynd ar ôl ei syniadau creadigol. Fydd y sesiynau yma’n gyfle i rannu, i wrando, i greu ac yn bwysicach byth yn ofod fydd- ar agor- i bawb.

Archebwch:

Sesiwn 1: 13/7: https://www.eventbrite.co.uk/…/aragor-inois-ar-agor…..

Sesiwn 2- 31/8: https://www.eventbrite.co.uk/e/aragor-inois-ar-agor-sesiwn-2-inois-open-session-2-tickets-941026885747?aff=oddtdtcreator

Sesiwn 2- 14/09: https://www.eventbrite.co.uk/…/aragor-inois-ar-agor…..