Mae gan Storiel llond trol o weithgareddau i gadw pawb yn hapus wrth ymweld â ni! Pam ddim trio…
Bagiau Antur – Gofynwch am fag antur wrth y dderbynfa ac ewch am daith anturus o amgylch yr Amgueddfa! Mwy o wybodaeth yma.
Helfa Hetiau – Chwiliwch am het yn y blychau hetiau, ffeindiwch yr het wreiddiol yn yr arddangosfa, tynnwch hunlun a’r rannu gyda #HelfaHetiauStoriel! Mwy o wybodaeth yma.
Sgrabl a Jigso – Allwch chi ysgrifennu neges yn iaith cyfrin ‘Coelbren y Beirdd’, neu ddatrys y jigso?
Helfa Drysor – Mae’r helfa yn newid pob gwyliau , gofynwch am daflen ateb yn y dderbynfa ac ewch ar daith i ddarganfod y trysor! Gwobr am gael hyd i bob un!