Mae BLAS, Pontio yn cyflwyno project arbennig sy’n cofnodi cymuned arbennig Hirael gyda chefnogaeth Storiel. Mae Gwion Aled Williams a’r ffotograffydd Iolo Penri wedi bod yn ymweld â Hirael sawl gwaith dros gyfnod o flwyddyn gan gael cipolwg o’r gymuned a’r unigolion sy’n byw yno. Bydd nawr cyfle i weld ffrwyth y gwaith o gofnodi cymuned Hirael mewn arddangosfa arbennig yn Storiel.
Mae’r gwaith yn tynnu ysbrydoliaeth o lyfrau Sibols: Plentyndod Hirael 1900-1930 a Hirael, North Wales 1976 gan Garry Stuart sydd wedi cofnodi lluniau o Hirael o ddechrau’r ugeinfed ganrif a’r 1970au. Mae Gwion Aled Williams a’r ffotograffydd Iolo Penri wedi bod yn ymweld â Hirael sawl gwaith dros gyfnod o flwyddyn gan gael cipolwg o’r gymuned a’r unigolion sy’n byw yno. Mae Gwion wedi cyfweld gwahanol unigolion a chymeriadau yn Hirael dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae wedi creu ffilm fer o’r cyfweliadau gan gofnodi eu hatgofion a phrofiadau personol o fyw – rhai wedi byw yno erioed – yn Hirael. Bydd ffotograffau Iolo Penri sy’n gofnod o rhai o gymeriadau a llefydd arbennig cymuned Hirael, ynghyd a’r ffilm a ffotograffau o’r archif. Gyda’i gilydd, mae’r arddangosfa yn dod a chymuned unigryw Hirael yn fyw.