Archebwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/gweithdy-tecstiliau-3d-addurniadol-decorative-3d-textiles-workshop-tickets-980024478597?aff=oddtdtcreator

Bydd y gweithdy yn dechrau gyda sgwrs fer gan yr artist cyn edrych ar rai o’r gwrthrychau perthnasol yn yr amgueddfa. Byddwn yn defnyddio deunydd pacio wedi’i ailgylchu a phwytho addurnol i greu cynwysyddion wedi’u hysbrydoli gan decstilau Cymreig traddodiadol a gwaith llechi.

Mae’r gweithdy yn addo bod yn gyfuniad hudolus o gelf a hanes. Bydd yn dechrau gyda sgwrs ystyrlon gan yr artist, fydd yn gosod y llwyfan ar gyfer gwerthfawrogiad dyfnach o’r darnau sydd wedi eu curadu yn yr amgueddfa. Wedyn bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael profiad ymarferol, i drawsnewid deunyddiau wedi’u hailgylchu yn gynwysyddion hardd. Bydd y creadigaethau hyn, nid yn unig yn ymgorffori esthetig tecstilau traddodiadol Cymreig, ond hefyd yn talu gwrogaeth i dreftadaeth lechi gyfoethog yr ardal, gan arddangos sut y gall celf fod yn gynaliadwy ac yn adlewyrchiad o hunaniaeth ddiwylliannol.