Oedran 5-11 ai teuluoedd

Sesiwn gweithdy byw gyda’r artist Catrin Williams i ddysgu sgiliau newydd mewn llyfr braslunio. Byddwn yn chychwyn wrth arsylwi delweddau bywyd llonydd yn edrych ar delweddau lliwgar llawn hwyl, gan ddefnyddio llinell a marciau creadigol, ac wedyn yn datblygu’r delweddau hyn yn hyderus i baentiad neu brint o ddewis y plentyn.

Bydd adnoddau celf yn gael ei baratoi.

Sesiwn 1

https://www.eventbrite.co.uk/e/964766391247?aff=oddtdtcreator

Sesiwn 2 

https://www.eventbrite.co.uk/e/964767424337?aff=oddtdtcreator

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.