Mae’r Cymry wedi credu fod y byd naturiol yn llon rhinweddau hudolus am oesoedd. Yn ôl trwy ein hanes mae yna sôn fod rhai coed yn sanctaidd, rhai planhigion yn gallu cadw ysbrydion drwg i ffwrdd drwy ei hudoliaeth, a bod y Tylwyth Teg wedi dysgu i ein hynafiaid sut i ddefnyddio ambell i blanhigyn i wella salwch.
Yn y gweithdy yma, mi fydden ni’n edrych ar len gwerin a choelion hen Gymraeg I wneud a rhinweddau hudolus planhigion a choed. Dewch i ddysgu sut yr oedd y Tylwyth Teg i fod i ddawnsio o dan y derw, pa blanhigyn oedd yn gallu cadw lwc ddrwg i ffwrdd, ac am y ddynes arallfydol a gododd o lyn i ddysgu meddygon enwocaf Cymru.
Archebu yn hanfodol. Ffoniwch 01248 353368
Tocynnau £10 yn cynnwys un diod poeth