Mae’n fraint cael gwahodd yr awdures Cernyweg Melanie Xulu i Storiel i trafod diwylliant tanddaearol ffansins ac arwain gweithdy ar creu ffansin bywiog. Bydd cyfle i holi Melanie ar y brosesau creadigol aml gyfryngol, dulliau marchnata a ffynonellau ariannu ffansins annibynnol.
Sefydlydd a prif olygydd y cylchgrawn ‘Moof’ yw Melanie Xulu . Magwyd yng ngogledd Cernyw a mae ganddi gradd BA mewn Diwylliant, Beirniadaeth a Chuaduriaeth o Prifysgol St Martins. Mae gwaith llenyddol Melanie wedi cael ei argraffu yn cylchgronau fel ‘Dazed’, ‘Record Collector’ a BBC Radio 6. Mae ganddi hefyd sioe radio ar SoHo Radio.
Sefydlwyd ‘Moof’ yn 2017 gan Melanie Xulu tra roedd yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd. Mae ‘Moof’ yn gylchgrawn print annibynnol sy’n canolbwyntio ar elfennau amgen o ddiwylliant. Mae 12 rhifyn hyd yn hyn ac mae nifer o erthyglau sy’n canolbwyntio ar diwylliant tanddaearol o gerddoriaeth, ffilm, celf a diwylliant a cyfweliadau gan artistiaid fel Gryff Rhys, Margo Guryan, Zandra Rhodes, Gong, Mark Fry, Keith Christmas, Martin Newell, Maxine Sanders, Matt Berry, & Gwenno.
Bydd y gweithdy yn dechrau am 2 o gloch ac am ddim i fynychu, ond mi fydd angen archebu lle.
Arianwyd y gweithgaredd yma trwy gronfa Ffyniant Bro