Dewch â’ch holl ddeunyddiau eich hun

CLICIWCH YMA I ARCHEBU

Ymunwch â ni am ddiwrnod bywiog a chreadigol yn STORIEL gyda’r artist David Weaver! Ymgollwch yn hud dŵrlliw ac ewch ati i ddysgu technegau newydd i ddod â’ch gwaith celf yn fyw. Mae’r gweithdy wyneb yn wyneb hwn yn berffaith i ddechreuwyr ac artistiaid profiadol fel ei gilydd. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ryddhau eich creadigrwydd a chysylltu ag eraill sy’n frwd dros gelf. Sicrhewch eich lle heddiw!

🌿 Gweithdy Dyfrlliw wedi’i Ysbrydoli gan Gwrediddiau’n Dianc o Erddi 🎨
Dewch yn greadigol yn y gweithdy paentio unigryw yma, wedi’i ysbrydoli gan yr arddangosfa Gwreiddiau’n Dianc o Erddi. Archwiliwch daith hynod ddiddorol planhigion o bob cwr o’r byd a’u heffaith ar ein hamgylchedd lleol.

Gan ddefnyddio themâu natur, symudiad a therfynau – wedi’u hysbrydoli gan gerflun trawiadol Manon Awst – cewch gyfle i arbrofi â lliwiau i greu eich gwaith celf eich hun wedi’i ysbrydoli gan fyd natur.

🖌️ Yn berffaith ar gyfer pob lefel sgil, mae’r sesiwn ymarferol hon yn cynnig gofod hamddenol i ymgysylltu â chelf a’r byd naturiol.