🌈GWEITHDY CREU POSTERI 70AU🌈
 
Dewch i ymuno a ni ar gyfer y Gweithdy Creu Posteri y 70au ar y cyd a’n harddangosfa “Enfys” – posteri gan Stuart a Lois Neesham
 
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer plant 8-12 oed ac mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim
 
Dim angen archebu, dim ond galw heibio ar y diwrnod!

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf

Tu Ôl i’r Llenni

08 February - 22 March 2025

Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.