AM DDIM
Addas ar gyfer oedran 5 a hŷn
AM DDIM
Addas ar gyfer oedran 5 a hŷn
Dechreuais arddangos fy ngweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae fy ngwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe’m magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond rwyf wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o'r themau cryfaf yn fy ngwaith.
Mae arddangosfa fawr o waith Jac Jones, artist, darlunydd ac awdur yn Storiel yn addo bod yn ysbrydoledig ac yn syndod. Mae delweddau Jac yn wybyddus i filoedd o deuluoedd ar draws Cymru –y cymeriad Jac y Jwc a greodd ar gyfer cyfres llyfrau Sali Mali neu weithiau celf ar gyfer llyfrau plant clasurol gan T.Llew Jones fel Lleuad yn Olau ac Y Trysorfa i enwi ond rhai.
Roedd mortaria Rhufeinig yn fowlenni bas gydag ymyl crwm, tu mewn wedi'i fewnosod gyda graean i falu sawsiau a cheg arllwys lydan. Roedd gen i ddiddordeb mewn archwilio'r nodweddion hyn, nid ar gyfer ail-greu'r gwrthrychau gwreiddiol nac i gynhyrchu rhai defnyddiol, ond ar gyfer myfyrio ar ffurf a swyddogaeth.