Ymunwch â ni ar Fawrth 1af ar gyfer Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi ym Mangor! Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 1 PM o Storiel, yn mynd ymlaen o amgylch y stryd fawr, ac yn gorffen yn yr eglwys gadeiriol, gyda band pres yn arwain y ffordd! Ar ôl yr orymdaith, beth am alw heibio siop goffi Storiel i fwynhau paned o de ac archwilio ein detholiad o anrhegion lleol a rhai wedi’u gwneud â llaw.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Prifysgol Bangor: 140 mlynedd o Gasglu Celf
01 February - 29 March 2025Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y ‘Times Higher Education’ yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor ymhlith y deg casgliad celf gorau yn y Brifysgol yn y DU. Mae'r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 21ain ganrif, yn ased artistig a diwylliannol pwysig i'r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a'i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o'r casgliad.

Mr Phormula SAIN OF THE TIMES. Ymateb Hip Hop i recordiau Sain
15 March 2025Drwy ymateb i sesiwn Storiel Tyrchu Sain yr wythnos canlynol, bydd y rapiwr ar bît-bocsiwr adnabyddus Mr Phormula am fynd trwy pob twll a chornel o catalog cerddorol Sain i greu cyfansoddion newydd Hip Hop . Gan gyfuno doniau lleisiol, samples ac ailaddasiadau i greu pnawn byth cofiadwy o gerddoriaeth.

Synau Storiel: Pioden
29 March 2025Mae'r Joshua Gardener yn wreiddiol o California ond bellach yn byw ym Mangor ac wedi dysgu’r Gymraeg. Mae ei brosiect cerddorol newydd Pioden yn gyfundrefn o Punc a Gwerin a mae wedi adeiladu dilyniant ffyddlon yn y misoedd diwethaf . Dowch lawr i Cafi Storiel am pnawn o gerddoriaeth acoustic egniol.