Bydd dillad oedd yn perthyn i’r Frenhines Fictoria hefo tecstilau a gwisgoedd eraill o gyfnod Fictoria yn cael eu harddangos yn Storiel o’r 17 o Hydref.
Bydd ffrog ddu a wisgwyd gan y Frenhines Fictoria yn hwyr yn yr 19eg ganrif i’w gweld yn ogystal a’i phais, cyffiau, het a ffrog plentynod. Bydd ffrog briodas o gyfnod Fictoria, gemwaith a chyfwisgoedd, esgidiau a sioliau hefyd yn cael eu harddangos.
Rhoddwyd dillad y Frenhines Fictoria i’r Amgueddfa gan amryw o bobl gwahanol, ac mae’n ddiddorol gweld bod eitemau tebyg yn bodoli mewn Amgueddfeydd a chasgliadau preifat eraill. Dengys yr arddangosfa yma hefyd rhai agweddau o steil a ffasiwn yn yr 19eg ganrif.
Am fwy o wybodaeth am ein casgliadau cliciwch yma.