Mae gan Storiel amrywiaeth o ddoliau yn y casgliad, o ddoliau Fictorianaidd i Sindy o’r 1960au, ond y rhai pwysicaf yw’r doliau gwisg Gymreig. Gwnaethpwyd doliau wedi eu gwisgo mewn gwisg Gymreig yn ystod y 19eg ganrif yn bennaf fel cofroddion. Roedd hefyd yn draddodiad i roi’r doliau yma yn rhodd i blant ac ymwelwyr enwog. Cyflwynwyd dol mewn gwisg Gymreig i’r Dywysoges Fictoria yn ystod ei hymweliad â Llangollen yn 1832.
Mae doliau yn gyfarwydd fel y teganau mwyaf cyffredin a phoblogaidd. Yn ystod y canrifoedd, mae plant wedi chwarae hefo doliau a’u defnyddio fel ffordd o ddianc i fyd dychmygol. Mae’r doliau cyntaf yn dyddio’n ôl i’r Eifftiaid, a fe’i defnyddiwyd fel teganau yn yr hen Roeg a Rhufain. O’r Canol Oesoedd, dechreuwyd eu cynhyrchu yn Ewrop a bu i’w poblogrwydd gynyddu.
Yng Nghymru gwerthwyd doliau mewn ffeiriau teithiol a marchnadoedd, ac yn ddiweddarach siopau teganau. Gellid prynu doliau heb ddillad gan wnïo dillad pwrpasol arnynt. Roedd yn gyffredin i ddoliau gael eu gwneud â llaw gan grefftwyr neu rieni allan o bren neu ddefnydd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth doliau’n fwy hygyrch.
Yn ogystal â chael eu defnyddio fel teganau, defnyddiwyd doliau mewn defodau crefyddol a dewiniaeth. Defnyddiwyd delw cwyr ar ddarn o lechen o Ffynnon Eilian, Ynys Môn ar gyfer melltithio ac mae’n cael ei arddangos yn Oriel 4. Mae doliau hefyd yn boblogaidd i’w casglu.