Iau 2 Mai    6.00 – 7.30

ELIZABETH MORGAN

GARDDWR 18fed  GANRIF o FÔN

Agoriad arddangosfa.

I’w gweld am y tro cyntaf ei dyddiaduron garddio, portread a gwisg  o frodwaith hardd.

Lansio Llyfr.

Cyflwyno gardd Storiel.

 

Gwener 17 Mai   2.00           £5

ELIZABETH MORGAN

Ei bywyd ac ymarferion garddio gan

Mary Wrench Jones.

Cawn fynediad i ddyddiaduron difyr Morgan ac i’r cyfraniad gan ferched tuag at greu gerddi’r gorffennol.

 

Gwener 7 Mehefin   2.00         £5

GWISGOEDD PRIODAS 18fed GANRIF

EDWINA EHRMANN

Uwch Guradur V&A

Rhoi goleuni ar ffrog frodwaith yn nghasgliad Storiel a dybir i fod yn wisg priodas Elizabeth Morgan o Henblas.

 

Sadwrn 22 Mehefin   2.00 – 4.30            £10       (yn cynnwys lluniaeth)

CWILTIAU

Sgwrs yng nghwmni’r artistiaid tecstil  Dorothy Russell a Liesbeth Williams. Cyfle i weld ‘Twyllo’r Llygad’ cwiltiau a wnaed gan aelodau Urdd Cwiltiau Cyfoes.

 

Gwener 28 Mehefin   2.00             £5

‘GWALLGOF GYDA GERDDI’

JEAN READER

Hanesydd gerddi.

Trafod garddwyr o ferched yng Nghymru 1750-1860. Sut mae dyddiaduron Elisabeth Morgan yn cyfrannu at lenwi bylchau yn y cyfnod hwn.

 

Sadwrn 20 Gorffennaf   10.00 – 4.00            £35        (yn cynnwys lluniaeth)

O DDARNAU BACH

LIESBETH WILLIAMS

Artist tecstil

Gweithdy creadigol yn gwneud cardiau unigryw gyda ffabrig a phwyth.

*Addas i unrhyw lefel gallu.

*Dewch a’ch peiriant gwnio gyda chi

 

Sadwrn 3 Awst   10.00 – 4.00           £35        (yn cynnwys lluniaeth)

ALISON CHAPMAN

Gweithdy clytwaith.

Gwneud bag gan ddefnyddio siapiau syml geometrig.

*Addas i unrhyw lefel gallu.

*Dewch a’ch peiriant gwnio gyda chi

 

Sadwrn 10 Awst   10.00 – 4.00          £35         (yn cynnwys lluniaeth)

LLYTHRENNAU i GWILTIAU

DOROTHY RUSSELL

Artist tecstil

Yn ystod y gweithdy hwn  cewch ddysgu tri dull i ychwanegu llythrennau ar gwiltiau a thecstil.

*Addas i unrhyw lefel gallu.

 

Sadwrn 14 Medi   10.00 – 4.00           £35         (yn cynnwys lluniaeth)

BRODIO BLODAU

ALMA DREW

Arbennigwr brodwaith

*Addas i unrhyw lefel gallu.

 

Iau 26  Medi   7.00          £20

BLAS y 1700au

Noswaith o fwydydd cyfnod yng nghwmni’r hanesydd Nia Watkin Powell

 

 

 

 

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.