Deuddeg artist, deuddeg portread. Celf wreiddiol o’r gyfres deledu ‘Cymry ar Gynfas’ ble’r oedd pob rhifyn yn dilyn un artist wrth iddynt ddarlunio un eicon Cymreig mewn celfyddyd o’u dewis.
Mewn dwy gyfres o ‘Cymry ar Gynfas’ i S4C fe roddwyd 12 artist Cymreig a 12 o Gymry amlwg mewn parau a’r her i bob artist oedd creu portread.
Yn y broses o wneud y cyfresi roedd pob artist yn cael diwrnod o amser gyda’u ‘gwrthrych’ mewn lleoliad o ddewis, yna yn dychwelyd i stiwdio i weithio ar y gwaith cyn datgelu’r portreadau gorffenedig.
Fe wthiodd pob artist ei hun i’r eithaf i gyflawni’r her a osodwyd ac mae’r casgliad gorffenedig gwych o bortreadau yn adlewyrchu pob math o Gymry amlwg a phob math o arddulliau creu er mwyn rhoi casgliad cynhwysfawr a difyr.
Mae’r artistiaid a’r Cymry amlwg fel a ganlyn:
Cyfres 1
Iwan Gwyn Parry | Robin McBryde
Meirion Jones | Max Boyce
Annie Morgan Suganami | Catrin Finch
Luned Rhys Parry | Rhys Mwyn
Sarah Carvell | Margaret Williams
Billy Bagilhole | Bryn Terfel
Cyfres 2
Catrin Williams | Beti George
Meinir Mathias | Iolo Williams
Christine Mills | Osian Huw Williams
Anthony Evans | Myrddin ap Dafydd
Seren Morgan Jones | Kizzy Crawford
Wil Rowlands | Dafydd Iwan
Gellid gweld Cyfres 2 ar S4C Clic yn ystod cyfnod yr arddangosfa.