Sioe diweddaraf Arad Goch gan Alun Saunders i blant oed 9 i fyny sy’n ymdrin a hunaniaeth ai Iaith Gymraeg trwy lygaid 3 person ifanc.

“Mae tyfu fyny’n ddigon o her: darganfod pwy wyt ti, pwy allet ti fod yn ogystal a chadw fyny a gwaith cartref…Ond pam mae gofyn cyflwyno hynna o flaen ysgol gyfan, ble ar y ddeuar mae dechrau?” Mae Cymrix yn gynhyrchiad ar gael yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog wedi ei anelu at blant 9+ ond mae hefyd yn addas iawn ar gyfer siaradwyr Cymraeg Newyddo bob oedran. Mae’r cynhyrchiad yn wirioneddol hygyrch i Gymru Cymraeg a ddi-gymraeg fel ei gilydd”

Sioe 1

https://www.eventbrite.co.uk/e/953296113337?aff=oddtdtcreator

Sioe 2 (Dwyieithog)

https://www.eventbrite.co.uk/e/953304438237?aff=oddtdtcreator

Sioe 3 

https://www.eventbrite.co.uk/e/953386012227?aff=oddtdtcreator

 

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.