hawlfraint Rhodri Jones
hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy’n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa.

“Does dim poen mor fawr â’r cof am lawenydd yn y galar presennol” Aeschylus⁠

Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw’n ffotograffau teimladwy, llawer o’i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy’n archwilio colled a galar.  Mae’r llyfr yn archwiliad o alar sy’n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy’n troi galar yn sgwrs.

Mae’r arddangosfa hefyd yn dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones – fel ysgolhaig ac archeolegydd clasurol ymroddedig a gyfleodd ei angerdd am ei bwnc trwy ei rôl yn addysgu’r Clasuron ym Mhrifysgol Bangor, fel curadur anrhydeddus Amgueddfa Prifysgol Bangor ac fel trefnydd pwysig digwyddiadau a chyfarfodydd Cymdeithas Glasurol Bangor. Mae celf ac archifau sy’n dal arbenigedd ac egni John yn cynnwys darluniau archeolegol yn seiliedig ar ei waith yn Attica a safle mwyngloddio mwyn arian Agrileza, detholiad o bosteri a ddarluniodd ar gyfer y darlithoedd niferus a’r darlleniadau dramâu a drefnodd yn ogystal â ffotograffau archifol a dogfennau.

Ganed Rhodri yn Sling ger Bethesda, ac mae’n gweithio fel ffotograffydd proffesiynol, wedi’i leoli ger Bologna, yr Eidal.  Mae yn gweithio ar brosiectau personol a chomisiynedig ledled y byd ers 1989, COFION yw ei seithfed gyfrol ffotograffig bersonol i’w chyhoeddi. Cafodd ei ddisgrifio gan ffotograffydd Magnum, Philip Jones Griffiths fel “bardd Cymreig gyda chamera”, mae Rhodri wedi cael arddangosfeydd unigol yn Tsieina, Iwerddon, Lloegr, Ffrainc, Gwlad Groeg, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, UDA a Chymru. ⁠⁠ Mae ei ddelweddau wedi cael eu defnyddio gan gylchgronau blaenllaw, papurau newydd, cyrff anllywodraethol a chyhoeddwyr ledled y byd ac mae ei waith yn cael ei gadw mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat.

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.