Wrth gyfosod y cyfarwydd â’r anghyffredin, mae Pritchard yn creu gwyriadau swrrealaidd a chythryblus oddi wrth y byd rydym ni’n ei adnabod. Gydag effeithiau rhithiol a seicolegol siâp, lliw a phatrwm yn ei gyfareddu, mae’n archwilio’r trosiadau y mae paentio yn eu creu.
Mae Ceri yn fab i ddau o arlunwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Claudia Williams a Gwilym Prichard. Mae ei arddull unigryw yn archwilio eiconograffeg sy’n cyfuno ffurfiau addurniadol a chynrychioliadol. Mae’n credu, yn ei achos o, bod “heriau creadigrwydd bob amser yn cael eu gwobrwyo gan elfen o’r annisgwyl”. Ysgrifenna fel hyn:
Rydw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn ymwybyddiaeth yn ei ffurfiau amrywiol. Pan dwi’n paentio, dwi’n ceisio cael teimlad o ryw fyd arall, rhyw fath arall o fodolaeth. Rydw i’n ymdrechu i wneud paentiadau sy’n newid canfyddiad gweledol rhywun, i ennyn ymdeimlad o ryfeddod a phryder ar yr un pryd.
Mae Ceri yn dod â ffurfiau dynol ac anifeilaidd ynghyd. Mae ffigurau arallfydol yn cyferbynnu’n llwyr â gwrthrychau cyffredin y cartref. Wrth gyfosod y cyfarwydd â’r anghyffredin, mae’n creu gwyriadau swrrealaidd a chythryblus oddi wrth y byd rydym ni’n ei adnabod. Fel y dywed yr ysgrifennwr a’r artist Neal Brown:
Mae paentiadau Ceri Pritchard yn gyfareddol, yn enwedig oherwydd eu heithafion. Maen nhw’n gadarn yn eu hargyhoeddiad swrrealaidd clasurol rhyfeddol, a gall hon fod yn sefyllfa unig yng nghyd-destun celfyddyd gyfoes […] Mae ei synnwyr o’r pwrpas swrrealaidd hwn, ynghyd â moeseg waith ddyfal, yn ei wneud yn enghraifft gyflawn o argyhoeddiad arlunyddol.
Ganed Ceri yn Birmingham yn 1954 ac astudiodd gerflunwaith yn Ysgol Gelf Lerpwl. Ar ôl derbyn BA mewn Celfyddyd Gain, cofrestrodd yn Ysgol Gelf Sant Martin. Symudodd Ceri i Ffrainc yn 1980 lle newidiodd ei waith o’r tri dimensiwn i’r dau ddimensiwn. Collage a llun-gopïau oedd man cychwyn ei fywyd fel paentiwr. Dangosodd ei waith newydd am y tro cyntaf yn Oriel Jon Gerstad yn Efrog Newydd yn 1986. Yn ôl yn Ffrainc, cynhyrchodd gyfres o fideos arbrofol cyn symud i Fecsico. “Mae fy ngwaith yn adlewyrchu bywyd sy’n newid yn gyson,” meddai, “mae pob gwlad a lle yn gadael ôl annileadwy, a chyfoeth o ddylanwadau a phrofiadau newydd ac amrywiol sy’n cronni’n barhaus.