Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid a myfyrwyr 16 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Yn yr arddangosfa eleni mae 75 o weithiau gan 57 artist. Y Beirniad Gwadd oedd Luned Rhys Parri a fu’n dethol ynghyd â Jeremy Yates.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Merched yn Hawlio Heddwch
12 April - 21 June 2025Dewch i ddarganfod hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923-24 a rôl ganolog menywod Cymru wrth weithio dros heddwch. Gan ddod â chelf ac archifau at ei gilydd, mae straeon y menywod hynod hyn yn ysbrydoledig ac mor berthnasol heddiw â chan mlynedd yn ôl.

Shani Rhys James & Stephen West
12 April - 28 June 2025Mae'r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd waith gan Shani Rhys James a Stephen West. Yn ogystal â benthyciadau gan ein sefydliadau cenedlaethol, mae'r ddau wedi cynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i adeilad a chasgliadau Storiel.

Sian Hughes
07 December 2024 - 29 March 2025Roedd mortaria Rhufeinig yn fowlenni bas gydag ymyl crwm, tu mewn wedi'i fewnosod gyda graean i falu sawsiau a cheg arllwys lydan. Roedd gen i ddiddordeb mewn archwilio'r nodweddion hyn, nid ar gyfer ail-greu'r gwrthrychau gwreiddiol nac i gynhyrchu rhai defnyddiol, ond ar gyfer myfyrio ar ffurf a swyddogaeth.