
CELF AGORED
Arddangosfa gymysg gyffrous o waith celf aml gyfrwng yn ymateb i’r thema eleni. Cyfle i bleidleisio am eich hoff waith.
Arddangosfa gymysg gyffrous o waith celf aml gyfrwng yn ymateb i’r thema eleni. Cyfle i bleidleisio am eich hoff waith.
Drwy ymateb i sesiwn Storiel Tyrchu Sain yr wythnos canlynol, bydd y rapiwr ar bît-bocsiwr adnabyddus Mr Phormula am fynd trwy pob twll a chornel o catalog cerddorol Sain i greu cyfansoddion newydd Hip Hop . Gan gyfuno doniau lleisiol, samples ac ailaddasiadau i greu pnawn byth cofiadwy o gerddoriaeth.
Mae'r Joshua Gardener yn wreiddiol o California ond bellach yn byw ym Mangor ac wedi dysgu’r Gymraeg. Mae ei brosiect cerddorol newydd Pioden yn gyfundrefn o Punc a Gwerin a mae wedi adeiladu dilyniant ffyddlon yn y misoedd diwethaf . Dowch lawr i Cafi Storiel am pnawn o gerddoriaeth acoustic egniol.
Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.