Rydym yn dal i ddatblygu ein casgliadau yma yn STORIEL ac yn casglu creiriau sydd yn ein cynorthwyo i ddehongli a deall hanes a diwylliant Gwynedd a’i phobl. Mae’r Amgueddfa yn dibynnu ar greiriau sydd yn cael eu rhoi yn hael gan aelodau o’r cyhoedd. Mae’r arddangosfa yma yn arddangos detholiad o’r creiriau sydd wedi cael eu hychwanegu i gasgliad STORIEL yn ddiweddar. Os ydych yn credu bod gennych rywbeth yr hoffech ei roi i’r amgueddfa, cysylltwch â’n Swyddog Casgliadau, Helen Gwerfyl drwy ffôn 01248 353368 neu ebost [email protected] fel man cychwyn.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Jac Jones
05 October 2024 - 04 January 2025Mae arddangosfa fawr o waith Jac Jones, artist, darlunydd ac awdur yn Storiel yn addo bod yn ysbrydoledig ac yn syndod. Mae delweddau Jac yn wybyddus i filoedd o deuluoedd ar draws Cymru –y cymeriad Jac y Jwc a greodd ar gyfer cyfres llyfrau Sali Mali neu weithiau celf ar gyfer llyfrau plant clasurol gan T.Llew Jones fel Lleuad yn Olau ac Y Trysorfa i enwi ond rhai.
Sian Hughes
07 December 2024 - 08 March 2025Roedd mortaria Rhufeinig yn fowlenni bas gydag ymyl crwm, tu mewn wedi'i fewnosod gyda graean i falu sawsiau a cheg arllwys lydan. Roedd gen i ddiddordeb mewn archwilio'r nodweddion hyn, nid ar gyfer ail-greu'r gwrthrychau gwreiddiol nac i gynhyrchu rhai defnyddiol, ond ar gyfer myfyrio ar ffurf a swyddogaeth.