Erbyn cyrraedd ei chweched pen-blwydd yr oedd Brenda Chamberlain eisioes wedi penderfynu mai artist ac awdur fyddai ac ni lwyddodd dim i newid ei meddwl. Er ei bod yn cyfaddef mai peintio sydd yn ei denu’n bennaf, llwyddodd hefyd yn ystod ei bywyd i gyhoeddi tair nofel, cyfrol o farddoniaeth, cyfrol o gerddi gyda darluniau a hefyd adroddiad o sut yr aed ati i greu’r Caseg Broadsheets, heb sôn am gyhoeddi peth wmbredd o gerddi ac erthyglau mewn cylchgronau.
Ganwyd ac addysgwyd Brenda ym Mangor ac wedi gadael yr ysgol treuliodd chwe mis yn Copenhagen ble dylanwadwyd ar ei gwaith cynnar gan beintiadau Gauguin. Rhwng 1931-36 mynychodd Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain ac yna symud i Lanllechid gyda John Petts ble iddynt sefydlu Gwasg y Gaseg yn 1937. Yr oedd John wedi astudio cysodi a dysgodd Brenda sut i ysgythru ar flociau pren. Bu’r ddau yn cynhyrchu cardiau Nadolig, priodas a chyfarch. Cydweithiodd y ddau hefyd gydag Alun Lewis i gynhyrchu cyfres o gerddi ac ysgythriadau ar ‘daflenni’ wedi eu hargraffu â llaw.