Rhannwch eich syniadau a bydd cyfle i ennill taleb o £100!

Glywsoch chi ein bod wedi cael ein dewis fel partner ar gyfer CELF: oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru? Fel rhan o’r prosiect hwn, rydym yn gweithio gyda rhai ymchwilwyr i ddeall ein cynulleidfaoedd yn well.

P’un a ydych yn ymwelydd rheolaidd neu heb ymweld eto – rydym am glywed gennych. Bydd eich adborth yn llywio ein dyfodol drwy ein helpu i ddeall sut y gallwn ni wasanaethu pobl ym Mangor, Gwynedd a thu hwnt.

Cwblhewch yr arolwg nawr.

Bydd eich adborth yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn ein helpu i wneud Storiel yn lle hyd yn oed yn fwy croesawgar i bawb sy’n byw yn ein hardal leol, ac yn ymweld â’n hardal leol. Mae’r arolwg wedi cael ei greu gan ein partneriaid ymchwil cynulleidfa. Dylai gymryd 10-15 munud i’w gwblhau a bydd ar agor tan 23 Chwefror 2025.

Diolch. Rydym yn edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud.