Bob blwyddyn mae’r cwrs Sylfaen mewn Celf yn cyrraedd ei benllanw gyda Phrosiect Terfynol wyth wythnos. Y myfyrwyr sy’n dewis eu testun a’u cyfrwng, ond fe ddylai fod yn berthnasol i’w disgyblaeth arbenigol.
Mae’r cabinet yn cynnwys cyfres o fodelau (maquettes) ar y thema ‘Prosiect Terfynol Bychan’, ac mae’n arddangos syniadau cychwynnol y myfyrwyr ynghylch y prosiectau terfynol sydd ar y gweill ganddynt. Felly mae cynnwys y cabinet yn rhyw fath o arddangosfa derfynol fechan.
Bydd gwaith terfynol y myfyrwyr i’w weld yn ein harddangosfa derfynol ar y campws celf a dylunio ym Mharc Menai o 6 Mehefin ymlaen. Bydd yr arddangosfa hon yn agored i’r cyhoedd.
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, neu’r arddangosfa cysylltwch ag Owein Prendergast: [email protected]