Mae cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai Parc Menai yn dathlu ei ben-blwydd yn 40. Roedd bwriad cynnal arddangosfa i ddathlu hyn y llynedd yn 2021 ond yn anffodus oherwydd y pandemig Covid-19 rhaid oedd gohirio’r digwyddiad. Mae’r arddangosfa, a gaiff ei llwyfannu eleni, wedi ei henwi’n addas ‘40 (+1) Sylfaen Celf Bangor Art Foundation’.
Caiff yr arddangosfa ei chynnal yn Storiel ac yn Pontio ym Mangor ac mae’n cynnwys gwaith gan dros 40 o gyn-fyfyrwyr o’r cwrs Sylfaen Celf sydd yn artistiaid a dylunwyr yn ymarfer eu crefft yn gyfredol.
Bydd yr arddangosfa yn agor i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn 22 Ionawr, ac yn parhau hyd nes 2il o Ebrill, 2022.
Yn STORIEL, 11am – 5pm, dyddiau Mawrth i Sadwrn.
Yn PONTIO, penwythnos agored 12 – 7pm, Sadwrn 22 a Sul 23 Ionawr, ac yn ddyddiol wedi hynny.
Mae mynediad am ddim i’r safleoedd.
Meddai Owein Prendergast, arweinydd cwrs Sylfaen Celf:
“Dim ond cip bychan yw hyn, mae miloedd o fyfyrwyr wedi mynd drwy ddrws y cwrs Sylfaen Celf ym Mangor ac yna ymlaen i droedio eu llwybrau creadigol eu hunain, a byddai yn amhosib cynrychioli pob un ohonynt yn unigol, ond gobeithio bydd yr arddangosfa hon yn dangos yr ysbryd cyfunol sydd yn cael ei rannu ymysg y rhai ohonom a wnaeth gwblhau’r cwrs arbennig hwn.”