Mae casgliad celf Prifysgol Bangor yn creu ased artistig a diwylliannol pwysig i’r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a’i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o’r casgliad.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Swyngyfaredd Gymraeg Cyfoes gyda Mhara Starling
01 February 2025Dewch i ddarganfod trysorfa o swynion, defodau, ac ymarferion hudolus i ddefnyddio o ddydd i ddydd. Wedi ei hysbrydoli gan hanes hudoliaeth werinol Cymru, ond wedi cael ei sefydlu yn y byd modern. Yn ystod y gweithdy yma dysgwch sut i greu swynion amddiffynnol, sut a pham i adeiladu allor ar gyfer bob math o ddefnyddiau, a hefyd sut i edrych i mewn i'r dyfodol.
Prifysgol Bangor: 140 mlynedd o Gasglu Celf
01 February - 05 April 2025Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y ‘Times Higher Education’ yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor ymhlith y deg casgliad celf gorau yn y Brifysgol yn y DU. Mae'r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 21ain ganrif, yn ased artistig a diwylliannol pwysig i'r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a'i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o'r casgliad.
Sian Hughes
07 December 2024 - 08 March 2025Roedd mortaria Rhufeinig yn fowlenni bas gydag ymyl crwm, tu mewn wedi'i fewnosod gyda graean i falu sawsiau a cheg arllwys lydan. Roedd gen i ddiddordeb mewn archwilio'r nodweddion hyn, nid ar gyfer ail-greu'r gwrthrychau gwreiddiol nac i gynhyrchu rhai defnyddiol, ond ar gyfer myfyrio ar ffurf a swyddogaeth.