g. 1963, Belffast Gogledd Iwerddon
Mae Paul Croft yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Peintwyr a’r Gwneuthurwyr Printiau a’r Academi Frenhinol Gymreig, ac ar hyn o bryd yn Uwch Ddarlithydd mewn Gwneud Printiau yn Ysgol Gelf Aberystwyth. Ers cymhwyso fel Meistr Argraffydd Tamarind (1996), mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar agweddau technegol, cymdeithasol, hanesyddol a chyfoes ar Lithograffeg Brydeinig a Rhyngwladol. Cyhoeddodd ddau lyfr arloesol, Stone Lithography (2001) a Plate Lithography (2003) ac mae wedi curadu arddangosfeydd: Stone Plate Grease Water International Lithography 2007-8, Contemporary Chinese Printmaking 2014-16, a’r Xiaoxiang Exhibition of International Printmaking 2015.
Yn 2021, fe wnaeth grant gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ei alluogi i ymchwilio i’r berthynas gydweithredol sydd wedi digwydd yn draddodiadol mewn lithograffeg rhwng artistiaid a’u hargraffwyr, gan arwain at arddangosfa fawr wedi’i churadu a llyfr yn cyd-fynd, Collaboration in Practice: British Lithography 1800 – 2022.
Mae Croft yn gweithio o’i stiwdio ei hun yn Aberystwyth ac mae wedi arddangos ei waith yn eang ar draws y DU, Iwerddon, UDA, Tsieina, Awstralia a Seland Newydd. Fel argraffydd sy’n cydweithio mae wedi gweithio gyda nifer o artistiaid gan gynnwys, Mary Lloyd Jones, Shani Rhys James, David Tress, Pete Williams, Pete Davies, Ann Desmet, Stuart Pearson Wright, Stuart Evans a Pete Monaghan.
Mae gwaith Croft yn ymwneud â datblygiad iaith weledol bersonol. Gan esblygu trwy synthesis o fotiffau sy’n deillio o ystod eang o arsylwadau, bywyd llonydd a gwrthrychau a ganfuwyd, mae’r gwaith yn cael ei lywio’n bennaf gan ymchwil i ffurfiau llythrennau, arwyddnodau, yr wyddor ac, yn fwy diweddar, gan ei ymdrechion i ddysgu Mandarin. Mae llawer o’i waith yn cynnwys lluniadu a gwneud printiau, lithograffeg carreg a phlât, ond mae hefyd yn defnyddio argraffu torluniau pren, monoteip a stensil.
Mae printiau diweddar wedi’u gwneud mewn setiau, wedi’u hargraffu fel cyhoeddiadau ac fel cyfres o ddelweddau unigryw, gan ddefnyddio technegau argraffu lithograffeg carreg a phlât, Mokulito, torlun pren a stensil. Mae astudiaeth gyfochrog o Tsieinëeg wedi arwain at ddehongliad chwareus o ffurfiant arwyddnodau, trwy gylchdroi blociau, platiau a phapur, y defnydd o stensiliau a masgiau i newid a chuddio ystyr.
Am rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa, cliciwch yma.