Ganed J. T. Parry yn Chwarel Goch, Tre-garth, ger Bethesda, ar Fehefin 28, 1853, yn un o 7 o blant a aned i Henry Parry (1825-1894) ac Ann (1834-1893). Priododd JTP ag Elizabeth ar Fedi 9, 1877, a symud i 65 Ffordd Carneddi, Bethesda ac, yn ddiweddarach, i Rif 47. O’r deg o blant a aned iddynt, goroesodd pedair merch (Anne Jan[e], Maggie, Myfanwy a Gracie) a thri mab (Henry Ellis, John a David).
Bu John Parry, fel nifer o fechgyn ei gyfnod, yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda, ac un o’i bleserau, pryd bynnag y câi gyfle, oedd gwneud arluniadau dyfrlliw ar dameidiau o lechi a’u gwerthu wedyn am ychydig sylltau’r un.
Yng Nghyfrifiad 1881 ac eto ym 1891, caiff ei ddisgrifio fel ‘Artist-Painter’. Ym 1901, mae’n ‘Artist & Landscape Painter’, yn gweithio gartref, ac yn amlwg wedi troi’i gefn ar y chwarel. Mae sôn i’w arluniadau wneud cymaint o argraff ar yr Arglwyddes Penrhyn nes iddi gynnig talu iddo gael hyfforddiant proffesiynol mewn Coleg Celf.
Gwelir nifer ohonynt mewn sawl cartref yn Nyffryn Ogwen a’r tu hwnt, gan gynnwys yng Nghastell y Penrhyn a’r Llyfrgell Genedlaethol. Er y credir mai arluniadau o olygfeydd oedd cyfran helaeth o’i waith, ceir ‘Castell Dolbadarn’, ‘Pont Tŵr’, ‘Pont Ogwen’ ac, yn goron ar y cyfan, mae arluniad lliw o hen dreflan fach Bryn Llys, a gladdwyd dan domennydd Chwarel y Penrhyn dros gan mlynedd yn ôl. Gan amlaf, byddai J. T. Parry yn ychwanegu ‘Ap Idwal’ at ei lofnod yng ngwaelod ei arluniadau.
Bu farw John Thomas Parry ar Fawrth 21, 1913, yn Ysbyty Wyrcws Bangor, a chladdwyd ef mewn bedd di-nod ym Mynwent Coetmor, Bethesda.
© J. Elwyn Hughes, 2021