Yn 2001, rhoddodd Ian y gorau i fod yn Ddarlunydd yn Llundain a symudodd i ganolbarth Cymru i astudio’r dirwedd a gwella ei waith argraffu. Ers hynny mae wedi bod yn creu cyfres ddilyniannol o brintiau tirwedd a morlun, gan ddefnyddio’r holl ysbrydoliaeth o wneud marciau, patrymau a thechnegau y mae wedi’u hamsugno dros y pum mlynedd ar hugain diwethaf o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae’r anturiaethau hyn yn cynnwys preswyliad gydag artistiaid brodorol o Ynysoedd y Torres Strait yng ngweithdy Djumbunji Print yn Cairns, Awstralia, astudio gyda’r Athro Wang Chou yn stiwdio Purple Bamboo yn Hangzhou, Tsieina, a gweithio ar y cyd â Pine Feroda yn Nyfnaint.
Ar hyn o bryd mae Ian yn arbrofi gyda graen, patrwm a gwead o fewn cyfrwng torlun pren ar gyfer cyfres newydd o brintiau tirwedd a morlun.
Am rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa, cliciwch yma.