Mae Storiel yn dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr i sicrhau bod pobl yn cael gweld a mwynhau’r gwaith celf ac arteffactau’r amgueddfa am ddim.
Cyfeillion yr Amgueddfa
Os hoffech chi ymuno â Chyfeillion Storiel, casglwch ffurflen o’r Dderbynfa neu cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth [email protected]
Dim ond £ 10 y flwyddyn yw’r tanysgrifiad a gallwch chi gofrestru gyda’ch teulu cyfan am £ 12. Os ydych chi’n ddi-waith, dim ond £ 5 ydyw.
Am y tanysgrifiad hwn byddwch yn dod yn rhan o grŵp o bobl sy’n ymroddedig i helpu i godi proffil Storiel, i gynyddu ei rôl yn y gymuned leol ac i adrodd hanes diddorol ein hardal.
Mae gan y Cyfeillion dwy gyfres o sgyrsiau amser cinio bob blwyddyn, yn aml yn ymwneud â’n casgliadau ein hunain, weithiau ar bynciau hanesyddol ehangach mewn cysylltiad â rhai o’r arddangosfeydd dros dro a gynigir gan Storiel. Hefyd, mae gennym ddigwyddiadau hel arian, yn enwedig Parti Nadolig ddechrau mis Rhagfyr, gyda gwerthiant llyfrau a chofroddion eraill.
Rhoddir yr arian a godwn i Storiel i dalu am gynnal a chadw gwrthrychau a phaentiadau hanesyddol, i brynu celf newydd, i wella’r arddangosfeydd a helpu’r weinyddiaeth. Mae’r aelodau hefyd yn gweini lluniaeth mewn agoriadau celf, yn darparu’r arian ar gyfer gwobrau ac ar gyfer prynu planhigion ar gyfer yr ardd.
At gyfer y newyddion diweddaraf gan y Cyfeillion a manylion digwyddiadau, ewch i dudalen y Cyfeillion.
Gadael rhodd I ni yn eich ewyllys
Gallwch gefnogi Storiel trwy adael rhodd yn eich ewyllys.
Mae gwneud a chadarnhau’ch cynlluniau ar gyfer eich ystâd yn ddatganiad personol am yr hyn sy’n bwysig yn eich bywyd chi. Trwy roi cyfraniad i Storiel yn eich ewyllys, gallwch helpu datblygiad hirdymor gweithgareddau a chasgliadau’r oriel. Os hoffech sgwrs anffurfiol am adael rhodd yn eich ewyllys, gallwch ffonio Rheolwr y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau ar (01286) 679098.
Cefnogi Storiel
Hoffai Storiel ddiolch i bawb sy’n cefnogi ein gweithgareddau – gan sicrhau bod y casgliadau ar gael i bawb eu gweld.